Mae cyfleusterau’r Creuddyn yn cynnwys:
- Mynedfeydd unigol
- Band eang ffibr
- Derbynfa â gwasanaeth
- Cegin gymunedol a lle bwyta
- Cyfleusterau Cawod / Toiled
- Parcio
- Gerddi wedi’u tirlunio
- Ardal eistedd anffurfiol y tu allan
- Lifft
- Pwynt gwefru EV
- Ystafelloedd cyfarfod i’w llogi
- Ystafell Gynadledda i’w llogi
- Eco-gyfeillgar
- Storfa feiciau
- Lleoliad Canol y Dref
Ar hyn o bryd mae gennym rai unedau swyddfa i’w rhentu, cysylltwch â ni [email protected]. Mae’r unedau’n dechrau ar £50 yr wythnos ynghyd â TAW.
Mae gan bob uned eu mynedfeydd eu hunain, a mynediad i gyfleusterau a rennir yn cynnwys toiledau / cawodydd, cegin fwyta a rennir.
Mae tenantiaid Creuddyn yn derbyn cyfraddau ffafriol pan yn llogi’r ystafelloedd cyfarfod ffurfiol a’r cyfleuster cynadledda.
Yn 2016 symudodd Radical Moves PR, fel y’i gelwid bryd hynny, i’w swyddfa gyntaf. Dim ond 2 berson ar y dechrau ond a dyfodd yn 4 dros gyfnod o flwyddyn. Roedd hen adeilad y llywodraeth, Canolfan Dulais, fel y’i gelwid bryd hynny, yn cyflawni’i ddiben ac yn caniatáu inni ddechrau ddatblygu a thyfu ymhellach. Wrth i ni dyfu, roedd gennym angen rhywle oedd yn fwy na dim ond gweithle, a dyna pam fod hi mor gyffrous ein bod ni’n symud yn ôl i mewn i adeilad newydd sbon Creuddyn.
Mae 2020 a Covid wedi’n argyhoeddi a’n haddysgu yn fwy nag erioed bod rhyngweithio wyneb yn wyneb mor bwysig o fewn diwydiant creadigol fel ein un ni. Mae’r 18 mis diwethaf wedi dangos i ni, er bod hi’n bosib gweithio o gartref, mai pan ddown at ein gilydd bydd y darnau yn disgyn i’w lle mewn gwirionedd. Nawr fod yna 6 aelod o staff, mae cael lle ble gallwn ni i gyd gymuno a rhannu syniadau mor bwysig. Rydym wedi cofleidio’r diwylliant hybrid a gall staff weithio gartref os dewisant, felly roedd angen i’n gofod swyddfa fod yn ddeniadol ac yn annog staff i fod eisiau treulio peth amser yma yn ystod yr wythnos.
Mae Creuddyn yn cynnig gofod ysgafn a golau, sydd nid yn unig yn ymarferol, ond hefyd yn caniatáu i’n staff weithio fel y dymunant. Mae gennym ni leoedd i weithio neu i eistedd a thrafod syniadau. Rydym yn ymwybodol bod gan bawb ffordd wahanol o weithio, a gobeithiwn ein bod yn rhoi’r gofod iddynt weithio yn y modd maent yn teimlo sydd fwyaf cynhyrchiol iddynt hwy.
Mae’r adnoddau, er enghraifft y cawodydd, yn caniatáu i staff adael eu gwaith ar amser cinio ac efallai mynd i redeg, cerdded neu feicio, gan wybod y gallent ddod yn ôl i’r swyddfa wedi’i hadfywio ac yn barod am waith.