Llogi Desg Boeth

Mae gennym ddesgiau poeth sefyll ac eistedd y gellir eu llogi am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. Mae dau gaban preifatrwydd ar gael hefyd. ‘Does ond rhaid i chi ddod a’ch gliniadur neu dabled a mewngofnodi i’n wifi cyflym iawn, diogel.

Mae yna ardal eistedd dan do lle gallwch gynnal cyfarfodydd anffurfiol neu gymryd seibiant gyda choffi da.

Ebostiwch eich ymholiad i [email protected].