Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru a’r UE, bydd Canolfan Dulais yn Llambed yn cael ei thrawsnewid i greu Canolfan Menter Gymdeithasol newydd, er mwyn cefnogi busnesau bach ac elusennau lleol.

Bydd y landlord cymdeithasol lleol, Tai Ceredigion, yn elwa o £ 1.5m o gyllid gan y Gronfa Targedu Buddsoddi mewn adfywio Llywodraeth Cymru ynghyd â £ 1.1m o arian yr UE fel cymorth i greu gofod swyddfa o ansawdd uchel er mwyn cefnogi busnesau bach ac elusennau lleol.

Bydd y ganolfan bresennol yn cael ei dymchwel a’i hail-adeiladu’n fel canolfan menter a safle cymdeithasol deulawr,

1,250 metr sgwâr pwrpasol, fydd yn cynnwys hyd at 15 o fusnesau bach a chanolig ynghyd ac elusennau. Bydd yn creu 20 o swyddi newydd ar gyfer hyfforddwyr, mentoriaid a staff cymorth ac yn targedu tenantiaid presennol Tai Ceredigion sy’n ceisio cychwyn neu dyfu busnesau. Bydd y Ganolfan Menter Gymdeithasol yn darparu lle i fusnesau cychwynnol dyfu, mannau cydweithredu, ystafelloedd cynadledda a hyfforddi a band eang cyflym iawn. Mae cynlluniau ar y gweill i gynnig cyrsiau hyfforddi i bobl ifanc a chefnogaeth i gael pobl yn ôl i’r gwaith.

Ymwelodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, â safle presennol Canolfan Dulais yr wythnos hon, a dywedodd: “Mae hwn yn ddatblygiad lleol cyffrous a fydd yn creu swyddi, cyfleoedd a gofod swyddfa deniadol ar gyfer darpar entrepreneuriaid. Mae’r cyllid yma yn rhan o’n Rhaglen Buddsoddi Adfywio wedi’i Dargedu blaenllaw, fydd yn ddarparu cyllid o £100m ledled Cymru dros dair blynedd er mwyn cefnogi prosiectau adfywio yn ein trefi.”

Mynegodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy’n gyfrifol am gyllid Ewropeaidd yng Nghymru: “Bydd y cyllid hwn yn creu gofod cymdeithasol gwych, gydag adnoddau penigamp.

Bydd yr adeilad newydd yn mynd i’r afael â diffyg darpariaeth swyddfa addas yn Llambed ac yn gartref i sefydliadau elusennol sy’n helpu cymunedau difreintiedig ddod o hyd i gymorth. Bydd yn mynd i’r afael â blaenoriaethau lleol ar sawl lefel, ac yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at economi wledig a lles cymdeithasol Llambed. Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn cael ei wireddu.”

Dywedodd Steve Jones, Prif Weithredwr Tai Ceredigion: “Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau cyllid sylweddol i ddarparu Canolfan Menter Gymdeithasol o’r radd flaenaf i Llambed, fydd yn hwb enfawr i’r economi leol ac yn ganolbwynt i’r gymuned leol.

“Fel cymdeithas tai, mae Tai Ceredigion yn darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer pobl leol, ac mae’n ymwybodol iawn o’r angen am swyddi a busnesau i gefnogi’r economi leol mewn ardaloedd gwledig. Mae’r datblygiad newydd hwn yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddod â buddsoddiad sydd wir ei angen i Ganolbarth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn mynd rhagddo yn ystod y misoedd nesaf. ”

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Mae Canolfan Dulais yn ddatblygiad hanfodol bwysig i Llambed. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £1.5m o gyllid TRI ar gyfer y datblygiad a fydd yn cael ei weinyddu gan Cyngor Sir Ceredigion. Rwy’n falch iawn y gallwn gefnogi datblygiad adeiladau o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau cychwynnol a thwf, yn enwedig yn y sector Gofal Cymdeithasol, sy’n gynyddol bwysig yn ein cymdeithas. ”

Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau yng Nghymru a ariannwyd gan yr UE wedi creu mwy na 48,000 o swyddi a 13,000 o fusnesau newydd, tra’n helpu 86,000 o bobl fynd yn ôl i’r gwaith.