Dydd Gwener cyhoeddwyd fod Canolfan Dulais Llambed ar fin cael ei thrawsnewid yn ganolfan menter gymdeithasol newydd fydd yn cefnogi busnesau bach ac elusennau lleol – diolch i bron i £ 3m o gyllid Llywodraeth Cymru a’r UE.

Bydd Cymdeithas Tai Ceredigion yn elwa o £ 1.5m o gyllid gan y Rhaglen Buddsoddi Adfywio wedi’i Dargedu Llywodraeth Cymru ynghyd â £ 1.1m o gyllid yr UE i helpu i greu’r hyn a ddisgrifir fel gofod swyddfa ‘o ansawdd uchel’. O dan y cynlluniau bydd y ganolfan bresennol yn cael ei droi yn ganolfan menter ac adeilad cymdeithasol deulawr, 1,250 metr sgwâr, ar gyfer hyd at 15 o fusnesau bach a chanolig (BBaCh), ac elusennau.